Wel ar ddydd Sadwrn es[1] i[1] i Tafwyl yng Nghaerdydd. Es[1] i[1] ar y trên o Gaerfyrddin am naw o'r gloch y bore gyda fy ffrind Rhys ac yna cerddon[1] ni[1] i'r castell. Roedd hi'n braf ac yn boeth felly gwisgais[1] i[1] siorts, crys a sbectol haul, diolch byth! Gwisgodd[1] Rhys[1] jîns ac roedd e'n rhy boeth! Gwelon[1] ni[1] lawer o fandiau Cymraeg a dewis da o stondinau. Gwnes i fwynhau gwrando ar Yws Gwynedd achos roedd caneuon gwych gyda fe. Heb os, mae e'n dalentog iawn. Fy hoff gân oedd ‘Sebona fi' achos roedd e'n fywiog. Roedd Rhys yn anghytuno achos roedd e'n meddwl bod y gân yn rhy araf.
Roedd llawer o stondinau bwyd yno felly amser cinio prynon[1] ni[1] lawer o fwyd a diod. Yn gyntaf bwytais[1] i[1] sglodion ac wedyn ces[1] i[1] grempogen gyda lemwn a siwgr. Blasus iawn! Prynodd[1] Rhys[1] un grempogen gyda lemwn a siwgr ac un grempogen gyda siocled - mochyn! Roedd dewis da o ddiod yn y ffair. Yfais[1] i[1] ysgytlaeth mefus a sudd oren ffres. Phrynon[1] ni[1] ddim[1] hufen iâ achos roedd y ciw yn rhy hir.
Yn y prynhawn, chwaraeon[1] ni[1] bêl-droed a hoci gyda'r Urdd. Chwaraeodd[1] Rhys[1] golff hefyd ond chwaraeais[1] i[1] ddim[1] achos a bod yn onest dw i'n anobeithiol! Roedd cymaint i'w wneud yna!
Aethon[1] ni[1] adref tua chwech o'r gloch ar y trên. Roedden ni wedi blino'n lân.
Ces[1] i[1] amser arbennig yn Ffair Tafwyl ac heb os, hoffwn i fynd eto flwyddyn nesaf.