Shwmae! Pierre ydw i a dw i'n gweithio mewn tŷ bwyta 5 seren yn Ffrainc. Heddiw bydda i'n dy ddysgu sut i wneud Croque Monsieur.
Yn gyntaf, ysgrifenna[1] restr siopa… bara, caws, ham, halen a phupur.
Cer[1] i'r siop…. mewn car… mewn bws… sdim ots! Nesaf pryna[1] bopeth ar y rhestr siopa a byddi di'n barod i goginio.
Dere[1] gyda fi i'r gegin a gwisga[1] ffedog.
Yn gyntaf, tro'r[1] gril ymlaen.
Rho[1] ham rhwng dau ddarn o fara fel brechdan a rho'r[1] frechdan o dan y gril am ddwy funud.
Torra'r[1] caws yn fân.
Tro'r[1] frechdan i'r ochr heb ei choginio a rho'r[1] caws dros y frechdan.
Arhosa[1] i'r caws i doddi o dan y gril a ‘voilà!' Mae'r Croque Monsieur yn barod!
Rho[1] ychydig o halen a phupur ar y Croque Monsieur. Très bien! Da iawn!
Eistedda[1] wrth y bwrdd. Bwyta'r[1] Croque Monsieur a mwynha[1]!