Gorchmynion 1

Uwcholeuwch y gorchmynion yn y darn
Byddwch yn ofalus! Bob tro byddwch chi'n clicio ar y botwm Enghraifft , bydd ceiniog yn cael ei thynnu o'ch cyfanswm.
+10

Shwmae! Croeso i'r Sioe Goginio. Pierre ydw i a dw i'n gweithio mewn tŷ bwyta 5 seren yn Ffrainc. Heddiw byddwn ni'n gwneud Croque Monsieur.

Yn gyntaf, ysgrifennwch[1] restr siopa… bara, caws, ham, halen a phupur.

Ewch[1] i'r siop…. mewn car… mewn bws… sdim ots! Nesaf prynwch[1] bopeth ar y rhestr siopa a byddwch chi'n barod i goginio.

Dewch[1] gyda fi i'r gegin a gwisgwch[1] ffedog.

Yn gyntaf, trowch[1] y gril ymlaen.

Rhowch[1] ham rhwng dau ddarn o fara fel brechdan a rhowch[1] y frechdan o dan y gril am ddwy funud.

Nesaf, torrwch[1] y caws yn fân.

Trowch[1] y frechdan i'r ochr heb ei choginio a rhowch[1] y caws dros y frechdan.

Arhoswch[1] i'r caws i doddi o dan y gril a ‘voilà!' Mae'r Croque Monsieur yn barod!

Rhowch[1] ychydig o halen a phupur ar y Croque Monsieur. Très bien! Da iawn!

Eisteddwch[1] wrth y bwrdd. Bwytwch[1] y Croque Monsieur a mwynhewch![1]