Llywelyn ydw i a dw i'n byw mewn castell yng Ngogledd Cymru. Mae ci gyda fi o'r enw Gelert ac mae e'n hoffi hela a gwarchod y teulu.
Llynedd[1] es i i hela yn y goedwig gyda fy ffrindiau bob[1] wythnos[1]. Weithiau[1] roedden ni'n mynd bob[1] dydd[1].
Bore[1] ddoe[1], es i i hela ond roedd Gelert eisiau aros yn y castell i warchod y babi. Prynhawn[1] ddoe[1], pan roeddwn i'n hela, gwelodd Gelert flaidd mawr, du. Roedd Gelert wedi lladd y blaidd.
Pan ddes i adre neithiwr, gwelais i waed ar y llawr. Gwelais i waed ar y wal. Gwelais i waed ar Gelert.
“Gelert! Rwyt ti wedi lladd fy mab i.” gwaeddais i'n drist. Felly, lladdais i Gelert.
Wedyn[1], clywais i fabi'n crio o dan y flanced. Pan welais i'r blaidd wedi marw roeddwn i'n teimlo'n drist dros ben. Roeddwn i wedi gwneud camsyniad. Roedd Gelert YN gi da.
Dw i'n aros yn y castell heddiw[1] achos dw i'n teimlo'n drist iawn.
Am[1] 10[1] o'r[1] gloch[1] ‘fory[1], bydda i a fy nheulu yn claddu Gelert ar bwys yr afon.