Llywelyn ydw i a dw i'n byw mewn castell yng Ngogledd Cymru. Mae ci gyda fi o'r enw Gelert ac mae e'n hoffi hela a gwarchod y teulu.
Llynedd[1] es i i hela yn y goedwig gyda fy ffrindiau bob[1] wythnos[1].
Ddoe[1], es i i hela ond roedd Gelert eisiau aros yn y castell i warchod y babi. Prynhawn[1] ddoe[1], gwelodd Gelert flaidd mawr, du. Roedd Gelert wedi lladd y blaidd.
Neithiwr[1], gwelais i waed ar y llawr. Gwelais i waed ar y wal. Gwelais i waed ar Gelert. Lladdais i Gelert.
Wedyn[1], clywais i fabi'n crio o dan y flanced. Gwelais i'r blaidd wedi marw ac roeddwn i'n teimlo'n drist dros ben.
Dw i'n aros yn y castell heddiw[1] achos dw i'n teimlo'n drist iawn.
Am 10 o'r gloch ‘fory[1], bydda i a fy nheulu yn claddu Gelert ar bwys yr afon.