Gwefan i gryfhau cywirdeb yn y Gymraeg.
Croeso i wefan Map Iaith Partneriaeth, gwefan a luniwyd ar gyfer dysgwyr 11 - 14 oed, cam cynnydd 3, er mwyn cryfhau cywirdeb yn y Gymraeg.
Croeso i barc antur Map Iaith Partneriaeth, lle gallwch ddatblygu a meistroli'ch sgiliau Cymraeg i ddod yn ddysgwr Cymraeg hyderus ac uchelgeisiol.
Mae 15 lleoliad yn y parc antur:
Enillwch bwyntiau wrth chwarae'r gemau neu wrth gyflawni'r gweithgareddau uwcholeuo er mwyn agor drysau i arcêd y parc lle gallwch chwarae gemau retro a chystadlu am sgôr uchel.
Bwriad y wefan hon yw rhoi cyfle i bobl ifanc rhanbarth Partneriaeth gryfhau eu cywirdeb yn y Gymraeg mewn modd anffurfiol trwy chwarae gemau hwylus. Rhoddir cyfleoedd i ddysgwyr adnabod tebygrwydd rhwng ieithoedd a gwerthfawrogi’r gwahaniaethau rhyngddyn nhw. Mae'r gemau'n rhoi cyfle i ddysgwyr chwarae â iaith wrth ehangu eu gwybodaeth, dyfnhau eu dealltwriaeth a chymhwyso eu sgiliau er mwyn dod yn gyfathrebwyr mwy effeithiol.
Isod, mae dolenni i adrannau gwahanol o'r wefan. Gallwch ymweld â'r parc antur neu fynd i'r ardal uwcholeuo, ennill darnau arian am gwblhau gweithgareddau, gwario eich ceiniogau yn yr arcêd ac edrych am wybodaeth ar y dudalen dogfennau cefnogi.